Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Ionawr 23, 2014

A oes heddwch?

 

Braf oedd darllen  fod Robert Gates sef cyn pennaeth amddiffyn yr Unol Daleithiau yn dweud na fedr Prydain bellach fod yn bartner llawn i America! Roedd yn dweud fod y toriadau yn lluoedd arfog Prydain yn ddiweddar wedi gwneud hi yn amhosib i’r Unol Daleithiau gael cefnogaeth filwrol lawn gan Brydain yn y dyfodol. Gwych o beth! Bu Llywodraeth Prydain yn llawer rhy barod i ddilyn milwyr America i mewn i bob rhyfel dan haul gan gynnwys Iraq ac Afghanistan wrth gwrs. Credaf fod Llywodraeth Prydain o’r diwedd yn sylweddoli fod angen gwarro fwy ar iechyd ac addysg yn fwy nag ar y lluoedd arfog. Teimlaf fod gwleidyddion Prydain yn sylweddoli fod yr ymerodraeth Brydeinig wedi dod i ben bellach a grym milwrol Prydain wedi machlud. Mae hyn yn hanner canrif yn rhy hwyr wrth gwrs ond gwell hwyr na hwyrach. Roedd y bleidlais yn y Senedd yn Llundain yn erbyn mynd i ryfel yn Syria yn drobwynt pwysig yn hanes Prydain. Bydd y bleidlais yn yr Alban yn yr hydref eleni hefyd dros annibyniaeth hefyd yn newid pob peth Prydeinig. Hyd yn oed os fydd y bleidlais yn yr Alban yn erbyn annibyniaeth nid fydd pethau fyth eto’r un fath yng ngwledydd Prydain.

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Prydain wedi bod yn ceisio deall beth ddigwyddodd yn Senedd Lloegr pan bleidleisiodd yr aelodau i beidio ag mynd i ryfel yn erbyn Syria haf llynedd. Dadansoddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw bod Prydain bellach yn wlad aml ddiwylliant a bod pobl sydd wedi dod i fyw ym Mhrydain o wledydd Mwslimaidd ddim am weld Prydain yn ymosod ar wledydd eu magwraeth hwy. Hefyd mae yna deimlad fod y rhyfeloedd yn erbyn Afghanistan ac Iraq ddim wedi bod o werth i Brydain nac yn werth y bywydau a gollwyd. Bydd milwyr Prydain yn gadael Afghanistan heb lwyddo i ennill y rhyfel yn erbyn y Taliban. Mae trais yn Iraq yn dal i fod yn uchel hefyd ac ni lwyddwyd i ddatrys dim yno drwy ryfela.  Ofn mawr y Weinyddiaeth Amddiffyn yw bod pobl Prydain bellach ddim yn cefnogi rhyfela ac maent yn ceisio ystyried pa fath o ryfel fyddai yn cael cefnogaeth y cyhoedd.  Eu dadansoddiad hwy yw y byddai’r cyhoedd yn cefnogi rhyfel awyr neu o’r môr ond ddim ar y tir. Canlyniad hyn fydd datblygu’r adar angau (drones)  a llongau rhyfel gan wario llai ar y fyddin.  Mae’r fyddin yn wynebu toriadau mawr ar hyn o bryd sydd yn beth da i heddychwyr wrth gwrs! Ond rhaid i ni wylio hefyd fel y bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn mynd ati nawr i berswadio pobl i dderbyn yr arfau lladd o bell megis yr awyrennau di-beilot yn y dyfodol. Felly nid oes le i heddychwyr laesu dwylo gan mai rhyfel dechnolegol fydd yr un nesaf, ac nid yw’r ymdrech i ddileu rhyfel  wedi llwyddo eto.

Advertisements
Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Tachwedd 24, 2013

Syria, Iran, Afghanistan

 

Roeddwn yn grediniol yn y gwanwyn eleni y byddai Prydain ac America wedi  ymosod ar Syria neu Iran erbyn hyn. Syndod o’r mwyaf i fi fel heddychwr yw gweld newid agwedd y gwladweinwyr a’r gwleidyddion yn ystod y flwyddyn. Mae’n naturiol ar adeg fel hwn wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn  i edrych yn ôl dros ddigwyddiadau o bwys. Credaf fod yna ysbryd newydd o heddwch yn y tir nawr. Roeddwn ofn credu hynny ychydig o amser yn ôl ond heddiw gyda chytundeb gyda Iran rwyf yn fwy hyderus fy marn. Yr arwydd cyntaf o’r ysbryd newydd yma oedd penderfyniad Senedd Prydain i wrthod ymyrryd yn rhyfel cartref Syria. Roedd  byddin Prydain wedi ymbaratoi at rhyfel ac roedd yna longau’r llynges yn barod i ymosod ger Cyprus.  Cafodd y penderfyniad yma ddylanwad bell gyrhaeddol. Yn gyntaf, gosododd y Prif Weinidog David Cameron gynsail drwy beidio a defnyddio yr uchelfraint Frenhinol i fynd i rhyfel er gwaethaf penderfyniad y Senedd.  Dylanwadodd hefyd ar Arlywydd Obama gan iddo hefyd bwyllo a gofyn am sêl bendith  gwleidyddion Yr Unol Daleithiau. Yn y cyfamser roedd Arlywydd Putin o Rwsia wedi gweld ei gyfle i berswadio Arlywydd Assad yn Syria i adael i’r Cenhedloedd Unedig i ddinistrio ei arfau cemegol.  Felly fe drodd sefyllfa ryfelgar yn un heddychlon, o leiaf o safbwynt Prydain a’r Unol Daleithiau. Mae yna rhyfel cartref yn parhau yn Syria ond tawelwyd y lleisiau megis y papurau newydd oedd yn galw am rhyfel.

Heddiw daeth y newyddion fod yna gytundeb wedi ei wneud rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran dros ddatblygiad y gorsafoedd niwclear yn y wlad. Felly dyma eto ateb heddychlon i argyfwng a oedd yn ymddangos fel reswm i ryfel rhwng y ddwy wlad. Nid yw gwleidyddion Israel yn hapus gyda’r cytundeb heddychlon yma wrth reswm gan eu bod hwy wedi gobeithio elwa o ryfel yn erbyn Iran.

Yna rhaid cofio eleni hefyd penderfynodd byddin y Cwrdiaid yn Twrci y PKK i alw cadoediad a dechrau ar drafodaethau heddwch yno hefyd. Mae fel pe bae yna symudiad pendant ar draws y byd tuag at trafodaethau yn hytrach na rhyfela.

Efallai y gwelir 2013 fel trobwynt yn hanes y byd i ffwrdd oddi wrth ryfel tuag at gyfnod o heddwch. Mae milwyr Prydain a’r Unol Daleithiau yn paratoi i adael Afghanistan hefyd wrth i’r trafodaethau heddwch barhau yno hefyd gyda’r gelyn sef y Taliban. Mae’n debyg fod yr ysbryd heddychlon yma wedi tyfu wrth i bobl y byd weld mai celwydd ddechreuodd rhyfel Iraq a bod y wlad ddim yn well heddiw ar ôl y rhyfel. Mae’r modd y collwyd rhyfel Afghanistan hefyd gan yr Unol Daleithiau yn rhan o’r teimlad hefyd dros heddwch.  Efallai fod y ffaith fod pobl yn teimlo effaith yr economi fregus a chostau byw yn codi hefyd yn ei gwneud fel dweud wrth y gwleidyddion i wario ar wella yr economi, ysbytai ac addysg yn hytrach na gwastraffi arian ar rhyfela. Gobeithiaf nawr fy mod yn iawn yn y dadansoddiad yma – ond cawn weld os bydd 2014 yn flwyddyn pan fydd y galw am heddwch yn cynyddu ymhellach. 

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Medi 15, 2013

Adar Angau yn nythu yn Llanbedr

Dim ond yn Aber-porth y bu hawl i’r  Adar Angau (Drones)  hedfan yn Ewrop tan nawr. Ond daeth newyddion nawr fod maes awyr Llanbedr ger Harlech yn mynd i fod yn rhan o ddatblygiad yr awyrennau di-beilot yma yn ystod 2014. Bydd Aber-porth a Llanbedr yn rhan a elwir gan Lywodraeth Cymru yn “ Amgylchfyd systemau awyrennau di-beilot Cymru”. Felly bydd maes awyr Llanbedr yn dod yn ganolfan hedfan i’r adar angau yma gan, yn eu geiriau nhw “wella yn bellach enw da’r Deyrnas Unedig fel gwlad sydd â darpariaeth  a chyfleusterau i  weithrediadau’r awyrennau di-beilot” ‘.

 

Mae hi yn eithaf eironig fod Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri wedi ennill ymgyrch fan arweiniad y cyn-wleidydd Alun Pugh i atal maes awyr Llanbedr rhag dod yn ganolfan i hedfan twristaidd. Sail yr ymgyrch oedd y sŵn fyddai’r awyrennau bach sifil yn wneud wrth  hedfan twristiaid dros y Parc. Nawr nid sŵn twristaidd fydd i’w glywed ond sŵn adar angau. Y gwir yw roedd yn rhaid gofyn am gael hawl gynllunio gan y parc Cenedlaethol ar gyfer hedfan yr awyrennau twristaidd ond does dim angen hawl ar yr adar angau. Bu awyrennau di-beilot yn hedfan o Lanbedr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac felly mae’r hawl cynllunio wedi parhau. Nid fedr y Parc cenedlaethol wneud dim i atal hynny.

 

Pan sylweddolwyd tua blwyddyn yn ôl fod maes awyr Llanbedr wedi ail-agor roedd yna ofnau gan aelodau Cell Porthmadog o Gymdeithas y Cymod fod yna bosibilrwydd i hyn arwain at hedfan yr adar angau. Ond ar y pryd cafwyd hawl cynllunio i drwsio hen awyrennau yno gan greu swyddi. Cafodd hyn groeso gofalus gan Gymdeithas y Cymod fel cyfle i ddefnyddio’r maes awyr ar gyfer defnydd sifil gan greu swyddi sydd wir eu hangen yn ardal Harlech. Ond yn anffodus nawr gwireddwyd yr ofnau. Mae  maes awyr Llanbedr wedi arwyddo cytundeb gyda QinetiQ y cwmni arfau milwrol sy’n defnyddio Aber-porth i hedfan y drones.

 

Bydd cyfarfod o Gymdeithas y Cymod ar nos Fawrth 24 Medi am 7.30pm yn Festri Capel Salem Porthmadog i drafod sut i wrthwynebu’r datblygiad yma.

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Medi 10, 2013

Datrys Syria

 

Anhygoel fyddai’r gair gorau i ddisgrifio beth sy’n digwydd nawr ynglŷn â datrys y rhyfel yn Syria. Pwy fyddai wedi gallu rhagweld beth sydd wedi digwydd? Senedd Llundain i ddechrau yn gwrthod cais y Llywodraeth i ystyried mynd i ryfel yn erbyn Syria. Penderfynodd Arlywydd Ffrainc hefyd ofyn am ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc  i fynd i ryfel. Yna Arlywydd America Obama yn penderfynu gofyn am hawl Cyngres yr  UDA i fynd i ymosod ar Syria, gan ddilyn esiampl o ddemocrataidd y DU. Nawr mae Rwsia wedi gosod pwysau ar Lywodraeth Assad yn Syria i osod ei arfau cemegol o dan reolaeth ryngwladol, ac Assad yn cytuno. Felly mae’r llwyfan wedi ei osod nawr i ddatrys rhyfel Syria mewn modd di-drais  drwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’n debyg y bydd pobl oedd yn cefnogi rhyfel  yn mynd i ddweud mai’r bygythiad a pharodrwydd yr UDA i ddefnyddio grym fu’n gyfrifol am benderfyniad Rwsia  i osod pwysau ar Assad.  Diddorol hefyd yw sylwi’r modd y bu’r cyfryngau torfol yn ymddwyn. Dechreuodd y papurau newydd bwyso am ryfel cyn pleidlais y Senedd yn Llundain. Ond am unwaith cafodd y galw am ryfel gan y cyfryngau ei wrthod. Yna dechreuodd y cyfryngau alw’r Prif Weinidog yn arweinydd gwan am golli’r bleidlais yn y Senedd. Mae’n rhyfedd fod y cyfryngau  yn credu mai dim ond  rhyfela yw’r peth cryf i’w wneud a bod ceisio heddwch yn beth gwan!.  Er mawr glod iddo derbyniodd y Prif Weinidog farn ddemocrataidd y Senedd a hefyd cyhoeddi  fod y mudiadau dyngarol yn Syria yn cael fwy o gyllid. Nid gwendid yw’r gair i ddisgrifio ymddygiad Cameron ond dewrder .

Gobeithiaf nawr y bydd hi yn bosib i’r rhyfel cyfan gael ei datrys mewn modd di-drais drwy’r Cenhedloedd Unedig. Nid yw trais byth yn ateb i drais, ac o’r diwedd mae’n ymddangos fod y byd yn dechrau deall hynny. Ond mae yna angen doethineb nawr i symud ymlaen i sicrhau heddwch.

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Medi 7, 2013

Colomen Heddwch!

http://org.salsalabs.com/o/859/images/peace%20Dove.gif

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Awst 30, 2013

Uchelfraint Frenhinol

 

Gosodwyd cynsail  cyfansoddiadol pwysig  yn y Senedd yn Llundain ar nos Iau 29 Awst 2013. Fe ddewisodd y Prif Weinidog David Cameron i beidio â defnyddio’r uchelfraint frenhinol i ddechrau rhyfel. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Hwn yw hefyd dim ond yr ail dro i Brif Weinidog ofyn am ddadl yn y Senedd ynglŷn â dechrau rhyfel. Tony Blair oedd y cyntaf i ofyn am bleidlais dros fynd i ryfel adeg ryfel Iraq. Ond dywedodd Tony Blair wedyn y byddai wedi defnyddio’r uchelfraint frenhinol  i fynd i ryfel os fyddai’r senedd wedi pleidleisio yn erbyn rhyfel Iraq. Fel mae’n digwydd cafodd yr aelodau seneddol ar y pryd eu twyllo gan Tony Blair i bleidleisio dros y rhyfel anghyfreithlon hwnnw. Y tro hwn roedd yr aelodau seneddol yn fwy gwyliadwrus  gan bleidleisio yn erbyn ymosodiad ar Syria. Derbyniodd David Cameron, er mawr glod iddo, farn y Senedd a datgan na fyddai yn defnyddio’r uchelfraint frenhinol.  Gan fod cyfansoddiad Prydain yn ddibynnol ar gynsail mae yn annhebyg iawn o hyn allan y bydd unrhyw lywodraeth Brydeinig yn defnyddio’r arf canoloesol yma o’r uchelfraint frenhinol  i ryfela eto . Felly dyma’r senedd yn Llundain yn symud i o’r canoloesoedd ffiwdal  i’r byd modern democrataidd o leiaf ar gwestiwn pwysig heddwch a rhyfel.

Roedd pleidlais y Senedd yn Llundain hefyd yn bleidlais dros annibyniaeth Prydain mewn perthynas â’r UDA. Bu polisi tramor Prydain yn ddarostyngedig i’r UDA ers pum degau’r ganrif ddiwethaf ar ôl rhyfel olaf annibynnol Prydain yn erbyn yr Aifft dros gamlas Suez. Ers hynny’r polisi tramor Prydeinig oedd dilyn a chefnogi polisi tramor UDA. Nawr bydd gan Brydain bolisi tramor annibynnol o’r UDA o leiaf yn achos Syria. Efallai o’r diwedd fod Aelodau Seneddol Prydain wedi sylweddoli nad yw Prydain yn wlad fawr imperialaidd ddim mwy ond yn wlad fechan yn Ewrop gobeithio. Disgwyliaf nawr y bydd y rhyfelgarwyr ym Mhrydain yn ceisio eu gorau i newid y farn gyhoeddus ond gobeithiaf na lwyddiant. Wedi dweud hynny mae’r cyfryngau gan gynnwys y BBC yn gwneud eu gorau i gyflyru pobl Prydain  i  ddechrau rhyfel yn erbyn Syria – hyd yn oed ar ôl y bleidlais yn y senedd.

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Awst 27, 2013

Y sefyllfa yn Syria

Mae’r sefyllfa yn Syria wedi gwaethygu yn frawychus o sydyn wrth i arfau cemegol gael ei defnyddio yno, a bod cudd filwr wedi saethu at arolygwyr y Cenhedloedd Unedig yno.  Nid oes sicrwydd pa ochr fu yn gyfrifol am ddefnyddio’r arfau cemegol ac mae’r ddwy ochr yn beio ei gilydd. Ond mae yna bwysau gwleidyddol wedi ei osod ar Arlywydd Obama i “wneud rhywbeth” ac ar Lywodraeth Prydain i gefnogi’r Unol Daleithiau.  Mae Prif weinidog Prydain newydd alw ar y Senedd yn Llundain i ail ymgynnull  dydd Iau Awst 29. Mae’r papurau newydd Prydeinig heddiw wedi  cael neges gan y Llywodraeth i ddechrau ar y broses o gyflyru pobl i baratoi am ymyrraeth filwrol gan Brydain.

Mae’r holl ddigwyddiadau yma dros y ddau ddiwrnod diwethaf yn  ofnadwy o debyg i’r hyn ddigwyddodd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ganrif yn ôl. Bryd hynny saethwyd yr Archddug Francis-Ferdinand o Awstria-Este yn Sarajevo, ac ymosododd Awstria ar Serbia. Cefnogodd Rwsia Serbia yn erbyn Awstria a chefnogodd yr Almaen Awstria yn erbyn Serbia. Heddiw mae yna ofnau y bydd UDA yn cefnogi’r gwrthryfelwyr yn Syria a bydd Rwsia yn cefnogi llywodraeth Assad yno. Dyna ehangu’r rhyfel yn bell y tu allan i ffiniau Syria a chreu sefyllfa o ryfel fyd-eang. Mae’r rhyfel yn Syria wedi lledu yn barod i ymosodiadau bychain ar y ffin gyda Thwrci ac Israel , ac mae yna le i gredu fod yna bosibilrwydd i rain waethygu. Os fydd lluoedd yr UDA yn ymuno yn y rhyfel bydd hyn yn rhoi hyder i Lywodraeth Israel i gydweithio ar ochr yr UDA. Mae Llywodraeth Filwrol newydd yr Aifft hefyd yn cadw golwg ar y sefyllfa ac mae yna bosibilrwydd y byddant hwy hefyd yn cefnogi lluoedd UDA yn erbyn Syria. Mae Iran hefyd yn ffinio gyda Syria ac wedi bod yn cefnogi  Llywodraeth Assad. Mae Twrci wrth gwrs yn ofni fod y Cwrdiaid yn cryfhau yng ngogledd Syria gan effeithio ar gryfder y Cwrdiaid yn Nhwrci sy’n dymuno gweld ffurfio gwladwriaeth newydd Kurdistan. Felly mae yna sefyllfa debyg iawn yma i’r Balcanau gynt, pan oedd y cenhedloedd bychain yno yn dymuno rhyddid oddi wrth Awstria.  Ond mae yna flwch mawr o ffrwydron yma sydd yn barod i chwythu a chreu trychineb enfawr byd-eang. Rhaid atal hyn rhag digwydd- rhaid cael trafodaethau heddwch ar fyrder rhwng y ddwy ochr yma. Nid yw fwy o drais yn mynd i ddatrys dim byd o gwbl ond yn peryglu dynoliaeth gyfan. Credaf nad yw hynny yn gor-ddweud gwaetha’r modd.

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Awst 25, 2013

Milwyr ifanc mwy tebyg o farw

 

Bu Cymdeithas y Cymod wrthi ers peth amser bellach i gael Llywodraeth Cymru i atal y Lluoedd arfog  rhag recriwtio plant mewn ysgolion. Chwarae teg mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad wedi rhoi sylw manwl i’r ddeiseb a drefnwyd gan Gymdeithas y Cymod . Cefais y fraint o roi tystiolaeth lafar o flaen y Pwyllgor a chafwyd gwrandawiad teg a chwrtais. Y brif ddadl yw bod plant ddim yn cael yr holl wybodaeth am amodau gwaith milwr cyn cael ei recriwtio. Mae Pwyllgor Hawl y Plentyn y Cenhedloedd Unedig yn dweud  fod yr hawl gan blant i gael gwybodaeth gyflawn a gwrthrychol, ac wedi gofyn i Brydain ail ystyried recriwtio plant i’r Lluoedd Arfog. Dim ond hawliau dros Addysg sydd wedi ei datganoli i Gymru felly dim ond o agwedd addysgiadol ac ymweliadau’r Lluoedd Arfog i Ysgolion gallwn ofyn i’r Cynulliad.

Ta beth mae yna agwedd addysgiadol newydd wedi dod yn hysbys nawr diolch i waith ymchwil Child Soldiers International a Forces Watch . Maent wedi darganfod fod yna bron dwywaith y perygl i filwyr a gafodd ei recriwtio yn 16 oed i gael ei lladd ar faes y gad na filwyr a gafodd ei recriwtio yn 18 oed. Mae yna reswm addysgol am hyn. Mae plant sy’n ymuno yn y Lluoedd Arfog yn 16 oed yn cael gwaeth addysg na phlant sydd wedi aros yn yr ysgol tan iddynt fod yn 18 oed. Felly mae milwyr sydd a llai o addysg yn cael gwaith mwy peryglus yn y Lluoedd Arfog. Mae milwyr gydag addysg dda yn cael swyddi gweinyddol  a pheirianyddol  sydd ymhellach i ffwrdd o’r ymladd. Mae plant 18 oed sydd wedi aros yn yr ysgol wedi dysgu bob math o grefftau o goginio i drin peiriannau mecanyddol. Ond mae plant 16 oed sydd wedi mynd yn syth i’r Lluoedd Arfog ddim yn cael addysg cystal.

Roedd Child Soldiers International wedi ymchwilio i’r 209 o filwyr Prydain a laddwyd yn Afghanistan rhwng Hydref 2001 a diwedd Mawrth eleni. Roedd y risg o gael eu lladd i filwyr a recriwt wŷd yn 16 oed yn 1.92 allan o 1000 tra roedd y risg i filwyr ymunodd yn 18 oed yn ddim ond 1.33 allan o 1000 o filwyr.  Dyna reswm arall i blant ddim ymuno yn y Lluoedd Arfog yn 16 oed er mwyn iddynt gael addysg gyflawn yn yr ysgol a swydd fwy diogel os ydynt am fynd i weithio fel milwyr.

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Gorffennaf 24, 2013

Gêm Fideo Lladd

Delwedd

 

 

Mae David Cameron wedi cyhoeddi’r wythnos yma  fod ei Lywodraeth am atal pobl rhag medru gweld pornograffi ar y rhyngrwyd. Dywedodd ei fod yn credu fod gweld pornograffi yn effeithio ar unigolion gan wneud iddynt droseddu yn rhywiol. Dywedodd fod gosod delweddau o drais rhywiol ar y we yn drosedd bellach. Cytunaf yn llwyr gyda hyn , ond os yw Cameron yn credu fod delweddau o drais rhywiol yn drosedd beth am yr holl gemau rhyfel  fideo ar y we? Os yw Cameron yn credu fod pornograffi yn effeithio ar bobl i droseddu onid yw’r holl ddelweddau o ryfela a lladd hefyd yn effeithio ar bobl ?  Uchod mae yna lun o glawr gêm fideo newydd sydd ar werth am £8 ac yn rhoi cyfle i bobl chwarae rôl fel saethwr cudd (sniper).  Pwrpas y gêm yw dysgu sut i fod yn saethwr cudd gan anelu yn gywir er mwyn “lladd” person. Onid yw’r gêm yma fel sawl gêm rhyfela arall sydd ar y farchnad yn mynd i effeithio ar y bobl sydd yn ei chwarae? Onid yw hi yn amser i rain hefyd, o ddilyn rhesymeg David Cameron gael ei gwahardd?

Mae gwaith saethwr cudd yn bersonol iawn. Mae yn anelu at un person gyda’i gwn ac yn gallu gweld os yw ei darged yn hapus neu yn drist cyn tynnu’r triger. Mae’r saethwr cudd fel arfer yn gadael “llofnod” megis drwy saethu at un llygad neu ddarn arbennig o gorff ei darged. Mae milwyr cyffredin yn ofni ac yn casáu’r saethwr cudd yn fwy na neb. Fel arfer os yw saethwr cudd yn cael ei ddal mae yn debyg o gael y gosb eithaf gan ei elyn oherwydd yr atgasedd tuag ato. Mae yna ganolfan hyfforddi arbennig i saethwyr cudd yn Serbia ac mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr yn gyn-filwyr sydd yn gobeithio cael gwaith gan gwmnïau preifat fel gwarchodwyr. Megis cwmni preifat sy’n gwarchod llongau rhag y morladron ger Somalia. Mae’n debyg fod merched yn well na neb fel saethwyr cudd oherwydd ei bod yn gallu canolbwyntio ar fanylion yn well na dynion.

Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Gorffennaf 19, 2013

Gwir fywyd y fyddin

 

Rydw i wedi bod yn roi tystiolaeth i’r Cynulliad i gefnogi deiseb Cymdeithas y Cymod i atal y lluoedd arfog rhag recriwtio plant 16 oed mewn ysgolion Cymru. Un o’r dadleuon oedd fod y fyddin yn roi darlun camarweiniol o fywyd yn y fyddin i blant. Mae’r fyddin yn sôn am roi hyfforddiant mewn crefftau ac yn cynnig gyrfa anturus i blant. Ond yr wythnos yma mewn ddau ddigwyddiad cawsom weld y gwir am fywyd yn y fyddin. Y cyntaf oedd yr hanes trist am ddau filwr yn marw yn ystod eu hyfforddiant ym Mannau Brycheiniog. Y llall oedd rhaglen Panorama y BBC sydd wedi ymchwilio i achosion o hunan laddiad  yn y fyddin ac ymysg cyn filwyr.

Yn yr achos cyntaf eglurodd Rod Richards mewn cyfweliad ar Radio Cymru fod hyfforddiant milwyr yn gallu bod yn eithafol iawn.  Disgwylir iddynt ymarfer mewn tymheredd uchel megais a gawsom yn ddiweddar ac hefyd mewn tymheredd isel iawn pan mae yna eira a rhew. Yn yr achos yma aeth yr ymarfer a dau filwr mor bell ag i’w lladd yn y gwres llethol. Dylai plant gael gwybod yn yr ysgol fod y fyddin yn roi hyfforddiant sy’n gallu arwain at farwolaeth mewn amodau eithafol.

Roedd canlyniadau ymchwil Panorama  yn fwy brawychus hyd yn oed. Dangoswyd cyfweliadau gyda milwyr oedd wedi  gweld erchyllterau maes y gad a mamau oedd wedi gweld eu plant oedd yn filwyr yn newid eu personoliaethau yn llwyr. Dywedodd un fam nad oedd hi braidd yn adnabod ei mab ar ôl iddo ddod adre o’r rhyfel yn Afghanistan gan ei fod wedi newid cymaint. Canlyniad profiadau erchyll y milwyr yma oedd iddynt ddewis lladd eu hunain yn hytrach na byw gyda’r profiadau poenus am weddill ei hoes. Eto dylid egluro i blant ysgol  pa fath o bethau erchyll y byddai yn rhaid iddynt wynebu mewn rhyfel.  Nid gyrfa anturus yw gyrfa milwr ond gyrfa o ladd eraill ac o ofn cael eich lladd a gweld cyfeillion gorau yn cael eu darnio o flaen eich llygaid.

Y ffaith yw fod  21 milwr wedi lladd ei hunain llynedd yn unig a bod  29 cyn-filwr wedi lladd ei hunain hefyd yn ystod yr un flwyddyn dyna gyfanswm o 50 hunanladdiad.  Yn ystod yr un cyfnod lladdwyd 44 o filwyr gan y gelyn.  Felly fe laddodd fwy o filwyr Prydain eu hunain nag a laddwyd gan y gelyn yn Afghanistan.  Dyma wybodaeth bellach y dylai plant wybod amdano cyn ymuno yn y fyddin.

Roedd teuluoedd y milwyr a laddodd eu hunain yn dweud yn glir fod y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi eu cefnogi o gwbwl na estyn cymorth i’w meibion pan oeddynt mewn trawma. Yn wir roedd gan y fyddin far gyfreithwyr i amddiffyn eu hachos yn erbyn y teuluoedd milwrol pan oeddynt yn mynd i’r llys i edrych am gyfiawnder. Teuluoedd tlawd oedd teuluoedd y milwyr bron i gyd heb yr adnoddau i ennill yn y llys yn erbyn holl rym y Llywodraeth.  Dylid dweud hynny wrth blant hefyd –sef fod dim cefnogaeth, yn wir  ceir y gwrthwyneb yn llwyr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Nid gyfra gyffredin fel pob gyrfa arall yw gyrfa yn y lluoedd arfog  – mae gofyn i chi ladd eraill fel milwr a fod yn barod hefyd i farw. Nid oes unrhyw yrfa arall yn gofyn hynny gan fod yna gyfreithiau yn erbyn lladd ac hefyd cyfreithiau iechyd a diogelwch. 

Older Posts »

Categorïau