Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Ionawr 14, 2013

Rhyfeloedd yn ein byd

Mae yna dros 30 o ryfeloedd yn digwydd yn ein byd heddiw. Rydym yn gwybod am y ryfel oedd yn Afghanistan a Syria wrth reswm. Rydym yn ymwybodol fod yna drais yng ngholedd Iwerddon ac yn Gasa. Ond hefyd mae yna ryfeloedd yn Weriniaeth Affrica Ganol, Darfwr, y Congo, Libya, Mali, Nigeria, Somalia, Myanmar, Pacistan, Chechnya, Dagestan, Iraq, Twrci, Yemen, Colombia, a Mecsico. Nid dyna’r restr gyflawn ond mae’n ddigon i ddangos fod ein byd yn bell o fod yn fyd heddychlon.
Mae yna hefyd sôn am ryfeloedd newydd bron yn ddyddiol. Mae ymosodiad ar Iran yn debygol, ac mae sylw wedi ei roi eto i Ynysoedd y Falklands (Malvinas). Mae Gogledd Corea heb gydnabod fod yna heddwch rhyngddynt a De Corea.
Mae’r holl ryfela yma yn destun pryder i bob heddychwr. Ein dyletswydd fel heddychwyr yw gweithio i ddatrys pob gwrthdaro mewn dull di-drais. Nid gwaith hawdd yw ceisio am gymod rhwng gelynion yn ein byd. Mae’r rhestr uchod o ryfeloedd bach a mawr yn gosod her i ni fel heddychwyr. Mae yna o leiaf dros fil o bobl yn cael ei lladd bob blwyddyn yn y rhyfeloedd uchod – dyna oedd y diffiniad o “ryfel”!
Un o’r cwestiynau sydd angen i i ofyn yw – Pwy sy’n elwa o’r ryfeloedd yma? Y Fasnach Arfau sy’n elwa fwyaf bid siŵr. Mae cwmnïau mawr hefyd sy’n amddiffyn eu buddiannau neu yn ceisio sicrhau cyflenwadau rhad o ddeunyddiau crau yn elwa .
Os gofynnwn –Pwy sy’n dioddef? Yr ateb yw y tlawd bob amser. Nid oes modd iddynt amddiffyn eu hunain rhag drais.

Advertisements

Gadael Ymateb

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: