Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Ionawr 29, 2013

Adar Angau

Bore heddiw ar Radio 4 roedd y gwyddonydd sy’n arbennigo mewn “AI” sef artificial intelligence Noel Sharkey yn dweud “ na ddylai peiriant robotaidd fyth gael ei ddefnyddio i ladd bod dynol”. Dyweodd fod hi yn hollol yn erbyn pob moeseg a syniad ethegol i ddefnyddio peiriant i ladd pobl. Roedd yn ofni fod y “Drones” neu Adar Angau yn cael ei rhaglenni i ladd pobl, a bod yn ddechrau ar ddefnyddio robotiaid mewn ryfeloedd. Rydym yn gwybod fod Llywydd UDA Obama wedi cynyddu y defnydd o adar angau yn ystod rhyfel Afghanistan ac hefyd i ladd unigolion (a phobl ddiniwed mewn canlyniad) gan y CIA ym Mhacistan. 

Yr wythnos yma hefyd cafwyd gwybodaeth yn y Guardian fod yna 130 o gwmnïau wedi cael yr hawl i hedfan awyrennau di-beilot dros Brydain. Mae’r cwmnïau yn cynnwys wrth gwrs BAE Systems , Qinetiq, MBDA a GWR sydd yn profi’r adar angau o Aberporth. Hefyd mae Prifysgolion, Heddluoedd, Gwasanaethau Diffodd Tân, Grid cenedlaethol, y BBC a Video Golf Marketing. Nid yw yr awyrennau di-beilot yma i gyd yn arfog ond maent yn hedfan camerâu. Felly mae rhain yn cael eu defnyddio gan yr heddlu i wylio protestiadau a lladron sydd yn codi cwestiwn preifatrwydd a hawliau sifil pobl.

Advertisements

Gadael Ymateb

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: