Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Ionawr 30, 2013

Hitler a’r Holocost

Cofiwn heddiw 30 Ionawr 2013 fod yna 80 mlynedd ers i Adolf Hitler ddod i rym yn yr Almaen. O fewn chwe mis cyntaf ei lywodraeth medrodd Hitler ddinistrio pob amrywiaeth o fewn y gymdeithas sifil gan greu yr unffurfiaeth oedd yn rhan o gredo’r Natsiaid. Dechreuodd erlid yr Iddewon ar 1af Ebrill drwy ddechrau’r boicot o siopau’r Iddewon. Canlyniad yr erlid ar yr Iddewon oedd yr Holocost ac mae Ddydd Rhyngwladol Cofio yr Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn.
Gelwir yr Holocost yn Hebraeg yn “Shoah” sy’n golygu “trychineb”. Ni does gair mewn unrhyw Iaith sy’n gallu disgrifio proses mor erchyll a difa 6 miliwn o Iddewon dros gyfnod o bum mlynedd yn Ewrop. Lladdwyd hefyd sipsiwn, hoywon, pobl anabl, puteiniaid, heddychwyr ac eraill nad oedd yn “addas i fyw” yn ôl y gredo Natsïaidd. Pen llanw mil o flynyddoedd o wrth- Iddewiaeth yn Ewrop oedd yr Holocaust mewn gwirionedd. Rhaid cofio fod y brenin a laddodd Llywelyn ein Llyw olaf sef Edward y Cyntaf wedi taflu holl Iddewon Lloegr allan o’r wlad yn 1290. Cafodd dros gant o Iddewon ei lladd yng nghastell Efrog yn 1190. Bu erlid cyson ar yr Iddewon ar draws gwledydd Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd ac hyd at y cyfnod Natsiaidd .
Cymrodd Adolf Hitler fantais ar y teimladau a rhagfarn gwrdd Iddewig i’w beio nhw am holl drafferthion economaidd yr Almaen. Yn ystod y cyfnod 1920-30 tyfodd yna fudiad Ewgeneg oedd yn credu fod angen puro a chryfhau’r hil drwy gael gwared o’r geneteg gwan oedd yn achosi anabledd. Roedd y mudiad Ewgeneg yn boblogaidd yn Ewrop oedd yn cael ei arwain gan bobl megis Winston Churchill, Margaret Sanger, Marie Stopes, H. G. Wells, Theodore Roosevelt, George Bernard Shaw, John Maynard Keynes, John Harvey Kellogg, Linus Pauling , a Sidney Webb. Un ffordd o gael gwared o’r geneteg gwan neu gwael oedd i sterileiddio pobl anabl ,hoywon ac ati, ond aeth y Natsiaid un cam ymhellach a lladd y bobl yma.
Felly medrodd rhagfarnau gwrth- Iddewig a’r mudiad Ewgeneg roi cyfiawnhad i’r Natsiaid i greu y broses o ladd pobl oedd yn cael ei ystyried yn wahanol i ni y bobl “normal”. Hefyd cafwyd cymorth gan gwmnïau mawr megis IBM ,Siemens a IG Farben a’r Rheilffyrdd i greu yr is-adeiledd angenrheidiol i ladd mewn modd systematig ddiwydiannol ei natur. Digwyddiad arall a wnaeth gweithredu erchyll yma yn haws oedd yr Ail Rhyfel Byd ei hun. Dim ond ar ôl i’r ryfel ddechrau yr oedd modd cuddio’r Holocost dan niwl y cyfrinachedd oedd yn diogelu ‘r wladwriaeth rhag ysbiwyr a’r gelyn. Erbyn adeg y rhyfel roedd yr Iddewon wedi cael ei portreadu gan bropaganda y Natsiaid fel “gelynion” yr Almaen. Felly y peth “iawn” yn ystod rhyfel yw lladd y “gelyn”.
Cyn y rhyfel roedd Hitler wedi ystyried alltudio’r Iddewon i gyd o’r Almaen i wledydd megis Kenya a Madagascar ond gwrthododd Prydain oedd yn rheoli Kenya a Ffrainc oedd y rheoli Madagascar cais Hitler. Hefyd gwrthododd Prydain yr Iddewon rhag mynd i Palestina yn y cyfnod yma cyn ac yn ystod y rhyfel . Rhaid cofio fod gwrth Iddewiaeth yn gryf hefyd yn Mrydain ac yn Ffrainc.
Yn ôl yr hanesydd Naill Ferguson yn ei lyfr “Wae of the World” mae lladd eraill yn bosib unwaith rydych yn ystyried eu bod yn” wahanol” i ni. Cymerodd hi ddegawd cyfan o bropaganda ac o ddeddfau gan y Natsïaid i wahanu’r Iddewon allan o gymdeithas sifil yr Almaen. Defnyddiwyd cartwnau a jôcs a hanesion celwyddog yn erbyn yr Iddewon yn gyson am ddeg mlynedd gan y Natsïaid. Roeddynt yn bwydo’r rhagfarnau wrth Iddewig oedd yn bodoli eisoes yn y wlad. Crëwyd deddfau i wneud yr Iddewon yn weledig wahanol hefyd drwy eu gorfodi i wisgo arwydd seren Dafydd ac ati. Diwedd y cyfan oedd yr Holocost dyna sy’n rhaid i ni ei gofio.
Felly mae hi yn bwysig pan y clywn jôc neu weld cartŵn sydd yn bychanu neu gwawdio eraill ei fod yn gam i gyfeiriad gwneud eraill ymddangos yn wahanol i ni. Mae’n debyg fod Mwslimiaid heddiw yn teimlo fod yna ymgais i’w gwneud i fod yn wahanol i ni drwy’r cyfryngau. Mae angen i ni fod yn wyliadwrus o hyn. Nid ydym yn hoff o erthyglau a jôcs gwrth Gymreig ym mhapurau Lloegr ac ni ddylem ddioddef hynny. Mae yn gam tuag at ein gwneud ni yn wahanol i eraill. Bod tro y digwydd hynny, boed yn erbyn yr anabl, neu y Talban dylem godi ein llais. Nid ydym am weld hi byth yn haws i ladd person arall ar sail ein rhagfarn ei bod yn ddigon gwahanol oddi wrthym ni fel ei bod hwy ddim yn ddynol hyd yn oed. Dyna’r ffordd at yr Holocost, dysgwn y wers yn ein dyddiau ni.

Advertisements

Gadael Ymateb

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: