Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Chwefror 6, 2013

Tryweryn – methiant trais

Roedd achos Tryweryn yn drobwynt mewn sawl ffordd yn hanes Cymru. Yn gyntaf cafodd trais dinas Lerpwl yn boddi Capel Celyn ei ddinoethi gan Blaid Cymru. Dangosodd y Blaid yn glir i’r byd fod Lerpwl yn cyflawni trais yn erbyn cymuned Gymraeg ei Hiaith. Dangoswyd hefyd fod holl aelodau seneddol Cymru yn hollol ddi-rym yn erbyn y trais. Pleidleisiodd yr holl aelodau seneddol Cymreig o bob plaid yn erbyn  y ddeddf i foddi Tryweryn ,ond nid oedd hynny yn ddigon i atal y mesur. Felly gwelodd y Cymry am y tro cyntaf fod Senedd Llundain yn methu eu hamddiffyn yn erbyn trais Lerpwl.

Fe welodd achos Tryweryn dri dyn ifanc dewr yn defnyddio trais yn erbyn offer dinas Lerpwl. Dyma oedd y tro cyntaf ers canrifoedd i drais gael ei ddefnyddio gan Genedlaetholwyr Cymreig. Methiant oedd ei hymgais hwy hefyd i atal y boddi. Nid yw trais byth yn llwyddo. Sylweddolodd  aelodau o Blaid Cymru fod y defnydd o drais i ennill rhyddid cenedlaethol ddim yn mynd i weithio. Canlyniad y trobwynt hynny yn hanes y Blaid oedd bod Cymru wedi dechrau ar hyd llwybr cyfansoddiadol a arweiniodd yn y diwedd i hunan lywodraeth i Gymru. Pe byddai’r Blaid yn ystod ymgyrch Tryweryn wedi dilyn ffordd trais mi fyddai Cymru wedi gweld sefyllfa debyg iawn i Ogledd Iwerddon neu Wlad y Basg lle cafodd miloedd o bobl ei lladd yn enw rhyddid cenedlaethol. Dim ond yn ddiweddar gyda Chytundeb y Pasg y dysgodd cenedlaetholwyr Gwyddelig fod ei  dulliau treisiol wedi methu. Gosododd byddin rhyddid Gwlad y Basg ei harfau lawr llynedd hefyd gan sylweddoli fod trais ddim yn gweithio. Diolch byth fod cenedlaetholwyr Cymru wedi dysgu pa mor ddi-rym yw trais yn ystod cyfnod Tryweryn. Mae llawer o’r diolch am hynny i arweiniad dewr a di-ildio’r heddychwr o genedlaetholwr Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru ar y pryd. 

Nid oes byth gyfiawnhad dros ddefnyddio trais, nid yn unig am ei fod byth yn llwyddo , ond am fod fwy o rym yn y dull di-drais. Esiampl wych o rym di-drais yw’r modd y mae Cymdeithas yr Iaith wedi gallu ennill gymaint o frwydrau dros yr iaith ar hyd y blynyddoedd ond i enwi S4C, Deddfau Iaith, Arwyddion Ffordd ddwyieithog ac ati ac ati. Mae’n debyg fod cenedlaetholdeb Cymru a hefyd yr Alban yn eithaf unigryw drwy ddilyn llwybr di-drais . Mae’r ffordd ddi-drais yn cymryd amser wrth gwrs ond mae yn osgoi y lladd, y dial, a’r holl boen sy’n dod yn sgil trais. Fe lwyddodd Lerpwl yn y tymor byr yn eu hamcan i foddi Capel Celyn ond fe fu Lerpwl yn y tymor hir yn gyfrifol am sefydlu ein Senedd ym Mae Caerdydd!

Advertisements

Gadael Ymateb

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: