Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Chwefror 15, 2013

Cofeb i’r Cymry

Cefais y fraint ddoe o gyfrannu at ddadl ar Taro’r Post ar Radio Cymru am osod cofeb rhyfel i’r Cymry yn Fflandrys i gofio’r rhai laddwyd yn y Rhyfel Mawr. Fy nadl oedd mai gwell fyddai gwario’r £70,000 oedd ei angen ar gyfer y gofeb i helpu cyn-filwyr heddiw sydd yn dioddef clwyfau meddyliol a chorfforol ar ôl bod ar faes y gad yn Afghanistan ac Iraq. Y gwrth ddadl fwyaf oedd bod pob gwlad arall oedd wedi colli milwyr yno heblaw’r Almaen a Chymru wedi gosod cofebion unigol. Nid oeddwn yn deall yn iawn paham roedd y gwledydd yma wedi gosod cofebion unigol gan mai ymladd gyda’i gilydd oedd y milwyr a byddai un gofeb fawr wedi bod yn well. Yn wir byddai cofeb a fyddai yn cynnwys y bechgyn ifanc o’r Almaen oedd wedi ei lladd wedi bod yn arwydd o gymod Cristnogol. Am ryw reswm roedd y rhai oedd yn dadlau yn erbyn cael un gofeb yn dal i weld y bechgyn o’r Almaen fel “gelynion” yn ei geiriau hwy. Erbyn heddiw rydym i gyd yn cyd-fyw fel dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n profi gwallgofrwydd rhyfela yn berffaith. Yr unig un oedd yn dadlau yn gall oedd yr hanesydd Deian Hopcyn, cyd ddisgybl i mi yn Ysgol Dewi Sant Llanelli a pherthynas hefyd o bell. Dadl Deian oedd bod hy’n bwysig i bob cymuned yng Nghymru gofio am erchyllterau a cholledion y rhyfel yn ystod y flwyddyn sydd i ddod wrth gofio am ddechrau’r rhyfel. Pwysleisiodd Deian hefyd y pwysigrwydd fel hanesydd o baratoi deunyddiau addysgiadol i hyrwyddo heddwch. 

Advertisements

Responses

  1. Annwyl Arfon – Sut hwyl ers blynyddoedd a llongyfarchiadau ar y bog. Deniadol iawn.

    Tan rai blynyddoedd yn ol mae’n debyg y byddwn wedi cytuno a ti yn llwyr, ond dw i ddim mor siwr erbyn hyn. Yn Nhachwedd 2011 ces y fraint o gynrychioli Awdurdod Tan Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Ngwasanaeth Coffa Ypres ar 11/11/2011. Profiad dirdynnol iawn. Er fy mod wedi darllen a gweld rhaglenni ar y gyflafan does dim yn debyg i fynd yno. Un peth yw gweld llun o fynwentydd, peth arall yw bod yno. Mae nifer o’r mynwentydd wedi eu lleoli ar faes y gad i bob pwrpas. Doedd dim amser ond i’w claddu lle y cwypon nhw. Roedd gweld cymaint o fynwentydd ym mhob man mor agos i’w gilydd yn rhywbeth na ellid ei brofi o lyfr neu ffilm. Dylem sicrhau fod cymaint a phosibl o bobl yn arbennig yr ifanc yn ymweld a’r ardal a byddai cofeb Gymreig yn help rwyn siwr, dyna pam y bidden i’n cefnogi cael cofeb.

    Gyda llaw digon tila yw’r gofeb i Hedd Wyn yn fy marn i. Dim mwy na phlac ar wal a dweud y gwir.

    Yr ydym yng Nghymru yn gweld y cyfan fel arwydd o Brydeindod: nid felly y mae ar y cyfandir. Roedd Gwlad Belg yn niwtral o 1839 tan 1914. Pa ryfedd roeddent gyda’r cyntaf i ymuno a’r Undeb Ewropiaidd. Ac mae Maer Ypres yn weithgar iawn dros achos heddwch.

    http://www.2020visioncampaign.org/en/home/artikel/887d639642f9a714300ae6abf9cdc93c/welcome-mayor-welcome-concerned-c.html

    http://www.placesofpeace.eu/news/current/27/meeting_with_mayor_and_peace_officer_of_ypres,_city_of_peace

    Fel y bydd y can mlynedd yn cael ei gofio o 2014 i 2018 bydd cael dimensiwn o gofio a deall y lladdfa heb orfod dioddef y militaraith a’r Prydeindod yn anodd mae’n siwr. Bydd gan Cymdeithas y Cymod le yn hyn rwyn siwr ond peidied a chymysgu rhan y wladwriaeth yn y gyflafan a rhan y milwyr diniwed a ddiddefodd uffern.

    Gweler yr isod. Dechrau braidd yn araf efallai ond gwylier i’r pen ac mae’r neges yn gwbwl glir. Y Frigad Dan a nid y lluoedd arfog gyda llaw, sydd yn canu’r ‘Last Post’ bob nos am 8.00 ers 1929 yn ddi-dor ar wahan i rai adegau yn ystod yr ail ryfel byd.

    Ynglyn a dy bwynt i gael un cofeb fel dywedodd y Gwyddel pan ofynwyd y ffordd iddo gyda’r ateb ‘I would not start from here’. Daeth yn amlwg yn fuan iawn nad oedd yna unrhyw drefn i ddelio gyda’r meirw ac yn gynnar iawn fe wnaeth y ‘Commonweath War Graves Commission’ fynd ati. Mae beddau a cofebion mewn 150 o wledydd. Yng Ngogledd Ewrop mae’r comisiwn yn gyfrifol am 1,358 o fynwentydd, 613 ohonynt o gwmpas Ypres. Roedd y gwaith yn dod i’w derfyn yn 1938 ac yna fe fu rhaid ail ddechrau unwaith yn rhagor oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Roedd hyn y gyd pan doedd Cymru yn ddim byd ond ‘See England’ Pa ryfedd nad oes yna gofeb i’r Cymry. Pe byddid yn cynllunio nawr byddai pethau yn wahanol mae’n siwr, ond nid felly y mae.

    Mae yr hyn wyt yn ddweud am feirw yr Almaen yn ddiddorol. Fe wnaeth pobl Gwlad Belg roi tir ar gyfer y mynwentydd yn rhad ac ddim, ond nid i’r Almaenwyr ac efallai yn ddealledig. Mae mynwentydd yr Almaenwyr yn rai gwahanol iawn. Yn fy mhrofiad i yn rhai coediog tywyll gyda rhan fwyaf o’r beddau yn cynnwys nifer, ac nid bedd i bob un. Nid nhw oedd y gorchfygwyr ife?

    Dw i’n cael y pwnc hwn yn gymleth iawn. Rwyn casau yr ochr filitaraidd cymaint a thi, ond rhaid cydnabod bod yna ochr ddynol hefyd, ac efallai ein body n colli golwg ar hynny weithiau

    (Dyfrig Thomas)


Gadael Ymateb

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: