Nid yn aml y ceir newyddion da i heddychwyr ond nawr clywsom fod Gwersyll milwrol Breudeth i’w gau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Dyma ran o dirwedd sanctaidd ein gwlad yn cael ei roi yn ôl i’r genedl ar gyfer gweithgaredd heddychlon. Dyma ardal Dewi Sant gydag eglwys Llanfreudeth wedi ei gysegru i’r santes Ffraid neu “Bridgit” sydd efallai yn fwy enwog yn Iwerddon. Trist oedd clywed pobl Sir Benfro yn protestio yn erbyn cau’r ganolfan filwrol yma. Roedd y gwersyll a’r maes awyr yma yn atal twristiaid ac eraill rhag mwynhau’r arfordir, a gelli’r disgwyl tyfiant nawr yn y nifer o dwristiaid a ddaw yma.
Nid yw yn newyddion da i gyd wrth gwrs oherwydd bydd y milwyr yn symud i ardal gysegredig arall o Gymru sef i Sain Tathan. Mae canran uchel iawn o dirwedd Cymru yn dal yng ngafael y lluoedd arfog Prydeinig. Dyma restr o’r prif ddarnau o’n gwlad:
Caerwent – 1500 erw
Capel Curig – 5 hectar
Castellmartin – 5.900 erw
Parc Cinmel – 6500 erw
Tywod Pembre
Mynydd Epynt 44,600 erw
Heb son am Aber-porth, Y Fali, Sain Tathan, Llansilin, Penally, a 7774 milltir o’r awyr dros Gymru a ddefnyddir gan y Llu Awyr.
Collodd Cymru ei sofraniaeth yn 1282 ac mae lluoedd arfog coron Lloegr yn dal ym meddiant llawer iawn o dir ein gwlad. Peidiwn â meddwl fod Cymru hunan llywodraethol yn rhydd o afael milwrol Prydeinig. Yma y daw’r milwyr i hyfforddi ar gyfer ryfeloedd Afghanistan a Duw a gwŷr ble arall. Diolch byth fod tir Breudeth o leiaf yn ôl yn ein gafael a brysied y dydd y cawn Fynydd Epynt yn ôl hefyd.
Gadael sylw