Cyhoeddwyd gan: arfon rhys | Ebrill 4, 2013

Korea a rhyfel

 

Rydw i wedi bod yn ail ddarllen llyfr Leopold Kohr “The Breakdown of Nations” . Mae Kohr yn dweud yn ei lyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn 1957 fod rhyfel  yn  cael ei achosi gan wledydd sy’n cymharol fwy na gwledydd eraill. Yn 1957 wrth gwrs roedd yna ddwy wlad enfawr yn wynebu ei gilydd yn y rhyfel oer sef America a Rwsia. Heddiw dim ond yr Unol Daleithiau sydd ar ôl fel y wlad fwyaf pwerus yn y byd. Yn ôl damcaniaeth Kohr mae pwy bynnag wlad sydd yn credu ei bod yn fwy pwerus na’i gwrthwynebydd yn mynd i  fod yn fygythiad i’r heddwch. Mae yna adeg yn dod pan mae cyfanswm y grym sydd gan wladwriaeth yn uwch na grym ei gwrthwynebwyr posib yna mae hi yn mynd yn ymosodol yn awtomatig. Tra pan mae ei grym y wladwriaeth i fod yn llai na grym ei gwrthwynebwyr mae hi yn mynd yn wlad heddychlon. Mae Kohr yn defnyddio hanes i brofi ei bwynt drwy ddweud fod gwledydd heddiw megis Portiwgal a Norwy yn wledydd heddychlon nawr ond pan oeddynt yn wledydd mwy pwerus na’i gwrthwynebwyr yna roeddynt wedi bod yn ymosodol. Roedd yr Iseldirwyr ddim yn ymosodol yn Ewrop lle’r oedd ei grym yn is na’i gwrthwynebwyr posib yno ond yn Indonesia ac ati roeddynt wedi bod yn ymosodol gan fod fwy o rym ganddynt yno yn erbyn y brodorion.  Mae hyn i’w weld heddiw ble mae India yn teimlo’n ddigon grymus i fod yn ymosodol  tuag at Bacistan ond ddim tuag at Tsiena. Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn ymosod ar wlad lai pwerus megis Afghanistan neu Iraq ond ddim tuag at Rwsia neu Tsiena.

Gellir gweld y deinameg yma heddiw ar waith rhwng Gogledd a De Corea. Mae Gogledd Corea yn teimlo ei bod yn gallu bod yn ymosodol tuag at Dde Corea gan ei bod yn credu fod fwy o rym ganddynt. Ond mae Gogledd Corea yn teimlo’n rhwystredig oherwydd maent yn gwybod nad oes ganddynt ddigon o rym yn erbyn yr Unol Daleithiau ac yn dangos y rhwystredigaeth hynny yn ei datganiadau ymosodol.  Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn teimlo rhwystredigaeth tuag at Ogledd Corea oherwydd maent yn gwybod fod ganddynt y grym i oresgyn Gogledd Corea yn hawdd ond maent yn ofni  y byddai Tsiena  wedyn  yn taro yn ôl, ac mae gan Tsiena’r grym i fod yn fuddugol. Y perygl yw y bydd Gogledd Corea yn dewis i beidio â tharo canolfannau’r Unol Daleithiau yn Ne Corea ond yn taro dinas yn Ne Corea gan fod y grym ganddynt i ymosod ar Dde Corea yn unig. Os byddai’r Unol Daleithiau wedyn yn gweld ymosodiad ar Dde Corea fel ymosodiad ar America yna byddai yna wir berygl rhyfel rhwng Tsiena a’r Unol Daleithiau. Ond bydd yn rhaid i’r Unol Daleithiau wneud penderfyniad i adael y ddau rhan o Gorea ymladd ei gilydd neu i gymryd ochr y De. Rhan o’r penderfyniad hynny fyddai os yw’r Unol Daleithiau yn credu fod ganddynt fwy o rym milwrol na Tsiena. Neu wrth gwrs fod Tsiena yn gwneud penderfyniad i beidio â chefnogi Gogledd Corea , a gadael y wlad honno i’w ffawd. Os yw Tsiena yn credu wrth gwrs nad oes y grym milwrol ganddynt i orchfygu’r Unol Daleithiau. Dyna’r fath o bwyso a mesur strategol sy’n digwydd yn barhaus a phosibilrwydd rhyfel yn ddibynnol ar faint tybiedig grym y ddwy ochr. Gobeithiaf yn fawr y bydd y ddwy ochr yn yr achos yma yn aros yn rhwystredig oherwydd does gan yr un ochr sicrwydd fod ei grym yn ddigon yn erbyn y llall.

O safbwynt heddychwr trist yw ystyried mai maint grym gwladwriaeth yn unig sydd yn mynd i benderfynu os yw yn wlad yn  heddychlon neu beidio, ac nid  penderfyniad egwyddorol. Mae hefyd yn amlwg i heddychwyr mai lleihau maint a grym gwledydd yw’r unig ffordd i leihau’r posibilrwydd o ryfel fawr. Fe fydd yna ryfeloedd bach wrth gwrs rhwng gwledydd bach ond gwell hynny na rhyfel fawr.  Roedd Kohr yn erbyn gweld Ewrop yn datblygu i fod yn un wladwriaeth fawr filwrol , ac yn dymuno gweld  cyfundrefn o wledydd bychan unedig yn Ewrop  tebyg i fodel y Swistir.

Advertisements

Responses

  1. Diolch Arfon.

    Gellir hefyd gweld fan hyn sut mae agweddau a gweithrediadau yr un ochr a’r llall yn cael eu dehongli i siwtio amcanion gwleidyddol – yr Unol Daleithiau yn ystyried eu hymarferion milwrol yn ‘amddiffynnol’ a De Corea yn gweld y rhain a’r sancsiynau yn ‘ymosodol.’ Un broblem yw – unwaith y mae’r rhetoreg yn cynyddu – sut y mae arweinwyr yn medru cyfaddawdu heb ‘golli wyneb’.

    Dwi yn cytuno mai’r unig ffordd tuag at fyd mwy heddychlon yw lleihau grym a chynyddu perthynas ar sail dealltwriaeth a pharchu gwahaniaeth!

    Jane


Gadael Ymateb

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: